Your Community, Your Say: Hysbysiad preifatrwydd a chwcis arolwg

Pwrpas y canlynol yw egluro eich hawliau a rhoi’r wybodaeth i chi y mae gennych hawl iddi o dan ddeddfwriaeth diogelu data’r DU.


1. Hunaniaeth a manylion cyswllt Yr Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a’n Swyddog Diogelu Data

MHCLG yw’r rheolwr data. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn dataprotection@communities.gov.uk.

yn ôl i’r brig


2. Pa ddata personol rydym ni’n ei gasglu a pham

Defnyddir gwybodaeth a gesglir o’r arolwg hwn i werthuso Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU ac i lywio datblygiad polisi yn y dyfodol. Mae Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU yn gonglfaen agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn elfen arwyddocaol o’i gefnogaeth i lefydd ar draws y DU. Mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer buddsoddi lleol erbyn mis Mawrth 2025. Bydd y gwerthusiad yn galluogi creu gwell bolisïau gyda’r nod o feithrin ymdeimlad pobl o barch yn eu cymunedau a darparu cyfleoedd i fyw bywyd iach, pleserus a chynhyrchiol.

Mae angen i’r arolwg gasglu’r categorïau canlynol o wybodaeth at ddibenion deall sut mae gwahaniaethau demograffig yn effeithio ar wahanol agweddau o fywyd yn eich cymuned yng Nghymru a Lloegr, a fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio gwerthusiad Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU ac ar gyfer datblygiad polisi yn MHCLG yn y dyfodol.

  • Eich oedran a rhywedd
  • Eich ethnigrwydd a chrefydd
  • Gwybodaeth am eich statws iechyd corfforol a meddwl
  • Statws priodasol neu bartneriaeth sifil
  • Data rhyngrwyd (gweler Adran 6 isod)

Bydd yr arolwg hefyd yn gofyn am ragor o fanylion os ydych yn fodlon i ni ailgysylltu â chi i gymryd rhan mewn ymchwil dilynol mwy manwl ar gyfer y gwerthusiad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Os felly, bydd gofyn i chi ddarparu:

  • Eich enw (at ddibenion ailgysylltu â chi i gymryd rhan yn yr ymchwil dilynol mwy manwl ar gyfer y gwerthusiad)
  • Eich gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost (at ddibenion ailgysylltu â chi i gymryd rhan yn yr ymchwil dilynol mwy manwl ar gyfer y gwerthusiad)

Byddwn yn cysylltu â chi i gymryd rhan yn yr arolwg drwy’r post os dewisir eich cyfeiriad ar hap drwy Ffeil Cyfeiriadau Cod Post (PAF) y Post Brenhinol sydd ar gael yn gyhoeddus.

Gellir defnyddio cyfeiriadau e-bost hefyd at ddibenion rheoli ansawdd i ddilysu ymatebion (er enghraifft, i atal cofnodion lluosog gan yr un unigolyn).

Mae cwestiynau o fewn yr arolwg yn ddewisol, felly byddwch yn gallu dewis a ydych am ddarparu'r data hwn i ni i'w ddefnyddio fel y disgrifir.

yn ôl i’r brig


3. Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r data

Mae deddfwriaeth diogelu data yn nodi pryd y cawn brosesu’ch data’n gyfreithlon. Y sail gyfreithlon sy’n berthnasol i’r prosesu hwn yw.

  • Erthygl 6(1)(e) - Tasg Gyhoeddus; ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.
  • DPA 2018 Rhan 2 adran 8(2)(b) - Arfer un o swyddogaethau’r Goron, un o Weinidogion y Goron neu un o adrannau’r llywodraeth.
  • Y sail gyfreithlon sy’n berthnasol i brosesu data categori arbennig (iechyd, ethnigrwydd a chrefydd) yw Erthygl 9(2)(g) – Budd cyhoeddus sylweddol.
  • DPA 2018 Rhan 2 adran 6(2)(b) - Arfer un o swyddogaethau’r Goron, un o Weinidogion y Goron neu un o adrannau’r llywodraeth.

yn ôl i’r brig


4. Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r data

Byddwn yn rhannu’ch data personol (eich atebion arolwg yn ogystal â manylion am yr ardal rydych chi’n byw ynddi) gyda’r proseswyr data personol, sydd hefyd yn gweithio gydag is-broseswyr amrywiol. Mae gennym gontractau ar waith gyda'r prif broseswyr, ac mae ganddyn nhw gontractau ar waith gyda'u his-broseswyr, sy'n atal unrhyw un rhag defnyddio'ch data personol ac eithrio yn unol â chyfarwyddiadau MHCLG.

  1. Verian, cwmni ymchwil, a fydd yn gweinyddu’r Arolwg Your Community, Your Life Survey ac yn dadansoddi canlyniadau’r arolwg.
    1. Greens Ltd (cyflenwyr argraffu a sganio holiaduron papur): Darperir cyfeiriadau i Greens i argraffu gwahoddiadau a holiaduron yr arolwg, ar gyfer unigolion y mae’n well ganddynt gwblhau’r arolwg trwy’r post.
    2. Bright Marketing Research (BMR) (partner casglu a phrosesu data): yn darparu sgriptio arolwg, uwchlwythiadau sampl, a gwasanaethau prosesu data ar gyfer yr ymchwil hwn.
    3. Merit Incentives (“Merit”) (cyflenwr anogaeth corfforaethol): Os byddwch yn optio i mewn i dderbyn anogaeth am gwblhau’r arolwg, yna bydd Merit yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost er mwyn darparu’r anogwr i chi. Mae hyn yn ddewisol.
  2. Frontier Economics (ymgynghoriaeth economaidd annibynnol) sydd wedi’i gontractio gan MHCLG i werthuso Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
    1. BMG Research (sefydliad ymchwil annibynnol): yn cynorthwyo Frontier Economics â gwerthusiad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
  3. Ipsos (Market Research) Limited (sefydliad ymchwil annibynnol) sydd wedi cael ei gontractio gan MHCLG i werthuso Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
    1. Wavehill IT (gwasanaethau cymorth TG): cynorthwyo Ipsos (Market Research) Limited â gwerthusiad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
    2. Ecorys (sefydliad ymchwil): cynorthwyo Ipsos (Market Research) Limited â gwerthusiad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
    3. Technopolis Group (sefydliad ymchwil ac ymgynghori): cynorthwyo Ipsos (Market Research) Limited â gwerthusiad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Ni fyddwn yn rhannu’ch gwybodaeth ag unrhyw un at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i rannu gwybodaeth - er enghraifft o dan orchymyn llys.

yn ôl i’r brig


5. Am ba mor hir y byddwn yn cadw’r data personol, neu feini prawf a ddefnyddir i bennu’r cyfnod cadw.

Os ydych wedi dewis cwblhau ein harolwg, byddwn yn cadw’ch data tan fis Rhagfyr 2026.

Mae holiaduron papur yn cael eu storio'n ddiogel am uchafswm o 12 mis ac yna'n cael eu dinistrio'n gyfrinachol.

Os ydych wedi cytuno i ni ail-gysylltu â chi, mae’n bosib y bydd Verian, Frontier neu Ipsos yn cysylltu â chi o fewn 18 mis o gwblhau’r arolwg, ac wedi hyn bydd yn dileu’ch data.

yn ôl i’r brig


6. Data a gesglir yn ystod arolygon ar-lein

Nid yw Verian yn defnyddio cwcis ar arolygon mewnol ar-lein safonol.

Fel sy’n wir ar gyfer y rhan fwyaf o arolygon ar-lein, mae Verian yn casglu gwybodaeth benodol yn awtomatig ac yn ei storio mewn ffeiliau data arolwg. Gall y wybodaeth hon gynnwys pethau fel cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (cyfeiriad IP), math o borwr, Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd (ISP); tudalennau cyfeirio/ymadael, system weithredu a stamp dyddiad/amser.

Mae Verian yn defnyddio’r wybodaeth hon a gesglir yn awtomatig i ddadansoddi tueddiadau fel defnydd porwr ac i weinyddu’r wefan, e.e. i optimeiddio'r profiad o'r arolwg yn dibynnu ar fath eich porwr.

yn ôl i’r brig


7. Eich hawliau, e.e. mynediad, cywiro, dileu

Eich data personol chi yw’r data rydyn ni’n ei gasglu, ac mae gennych chi hawliau sy’n effeithio ar yr hyn sy’n digwydd iddo. Mae gennych yr hawl:

  1. i wybod ein bod yn defnyddio’ch data personol
  2. i weld pa ddata sydd gennym amdanoch
  3. i ofyn am gywiro’ch data, a gofyn sut rydym yn gwirio bod y wybodaeth sydd gennym yn gywir
  4. i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (gweler isod)

Os hoffech arfer unrhyw un o’ch hawliau, cysylltwch â dataprotection@communities.gov.uk

yn ôl i’r brig


8. Casglu data plant

Nid yw’r Adran byth yn gwahodd plant dan 16 oed i gymryd rhan mewn arolygon yn fwriadol. Mae cyfranogiad yn yr arolwg hwn wedi’i fwriadu ar gyfer pobl 16+ oed.

yn ôl i’r brig


9. Anfon data dramor

Ni fydd eich data personol yn cael ei brosesu y tu allan i’r DU / UE / AEE.

yn ôl i’r brig


10. Gwneud penderfyniadau awtomatig

Ni fyddwn yn defnyddio’ch data ar gyfer unrhyw wneud penderfyniadau awtomatig.

yn ôl i’r brig


11. Storio, diogelu a rheoli data

Bydd MHCLG yn storio’ch data personol mewn system TG ddiogel y llywodraeth.

Rydym wedi rhoi telerau cytundebol llym ar waith gyda Verian, Ipsos a Frontier i sicrhau bod unrhyw ddata personol a ddarparwch drwy gymryd rhan yn yr arolwg neu unrhyw ymchwil dilynol i ni yn cael ei storio’n ddiogel.

yn ôl i’r brig


12. Cwynion a rhagor o wybodaeth

Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU.

Os ydych yn anfodlon â’r ffordd y mae’r Adran wedi ymddwyn, gallwch gwyno.

Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn defnyddio’ch data personol, yn gyntaf dylech gysylltu â dataprotection@communities.gov.uk.

Os nad ydych chi’n hapus o hyd, neu am gyngor annibynnol ar ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu â:

  Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
  Wycliffe House
  Water Lane
  Wilmslow, Cheshire,
  SK9 5AF


Ffôn: 0303 123 1113 neu 01625 545 745
https://ico.org.uk/

yn ôl i’r brig


13. Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Bydd bob amser gennym y polisi mwyaf diweddar ar gael ar y dudalen we hon. Byddwn yn cofnodi pryd y cafodd y polisi ei adolygu ddiwethaf.

Diweddarwyd y Polisi hwn ddiwethaf ar 18/02/2025.

yn ôl i’r brig