Cwestiynau Cyffredin
Ar y dudalen hon:
- Ynglŷn â'r arolwg
- Cymryd rhan
- Sut ydw i'n cwblhau'r arolwg?
- Cyfrinachedd a diogelu data
- Cysylltu â ni
Ynglŷn â'r arolwg
Pam mae'r arolwg hwn yn cael ei gynnal?
Mae’r arolwg ’Your Community, Your Say’ wedi’i gynllunio i gasglu gwybodaeth i helpu’r llywodraeth i werthuso Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU (UKSPF). Bydd hyn yn galluogi creu gwell bolisïau gyda’r nod o feithrin ymdeimlad pobl o falchder yn eu cymunedau a darparu cyfleoedd i fyw bywyd iach, pleserus a chynhyrchiol.
Bydd eich cyfraniad yn helpu’r Llywodraeth, elusennau a sefydliadau cyhoeddus eraill i ddeall cymunedau lleol trwy olrhain newidiadau pwysig dros amser.
Mae rhagor o wybodaeth am strategaeth werthuso Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU y llywodraeth ar gael yma. Mae disgwyl diweddaru'r strategaeth werthuso yn ddiweddarach eleni.
Pwy sy'n cynnal yr arolwg?
Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan Verian, asiantaeth ymchwil annibynnol ar ran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG).
Mae Verian wedi'i rwymo gan God Ymddygiad Market Research Society (MRS) – set o gytundebau sy'n sicrhau bod ymchwil yn cael ei gynnal mewn modd moesegol a diogel.
I ddysgu rhagor am Verian, ewch i www.veriangroup.com.
Beth yw rôl y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG)?
Mae'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) yn ganolog i’r llywodraeth sy’n cael ei gyrru gan genhadaeth, o osod sylfeini cartrefi fforddiadwy i drosglwyddo pŵer yn ôl i gymunedau ac ailadeiladu llywodraethau lleol. Mae gwaith MHCLG yn cynnwys buddsoddi mewn ardaloedd lleol i ysgogi twf a chreu swyddi, darparu'r cartrefi sydd eu hangen ar ein gwlad, cefnogi ein grwpiau cymunedol a ffydd, a goruchwylio llywodraeth leol, cynllunio a diogelwch adeiladau.
Cymryd rhan
Pam wnaethon ni ddewis eich cyfeiriad?
Gan nad oes modd gofyn i bawb gymryd rhan yn yr arolwg, rydym yn dewis rhestr o gyfeiriadau ar hap i gynrychioli pob ardal leol. Dewiswyd eich cyfeiriad ar hap o restr o gyfeiriadau preifat a gedwir gan y Post Brenhinol.
Dydw i ddim yn meddwl bod yr arolwg hwn yn berthnasol i mi
Mae barn a phrofiad pawb yn werthfawr, hyd yn oed os nad ydych yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau neu os nad ydych yn meddwl bod eich barn yn berthnasol. Mae'n bwysig bod y canlyniadau'n cynrychioli pawb ym mhob ardal leol.
Nid oes gennyf fynediad i'r rhyngrwyd, ond rydw i eisiau cymryd rhan
Os na allwch gwblhau’r arolwg ar-lein, gallwch ofyn am fersiwn bapur o’r arolwg drwy’r manylion cyswllt isod.
Ffoniwch linell gymorth yr arolwg ar 0800 008 3250
Neu e-bostiwch Verian yn yourcommunitysurvey@veriangroup.com
Pwy y dylwn i gysylltu â nhw os nad ydw i eisiau cymryd rhan?
Mae cymryd rhan yn wirfoddol, ond gobeithiwn y gwnewch gan y bydd yn rhoi’r darlun gorau posibl i ni o wahanol gymunedau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth, er efallai y byddwch yn dal i dderbyn hyd at dri nodyn atgoffa gennym ni, y gallwch eu hanwybyddu hefyd.
Os nad ydych yn dymuno derbyn llythyrau atgoffa pellach:
Ffoniwch linell gymorth yr arolwg ar 0800 008 3250
Neu e-bostiwch Verian yn yourcommunitysurvey@veriangroup.com
Byddwch yn barod i roi eich cyfeirnod, eich cyfeiriad a’ch cod post fel y gallwn eich eithrio o unrhyw gyfathrebu pellach. Mae'r cyfeirnod ar frig y llythyr hwn.
Sut ydw i'n cwblhau'r arolwg?
Beth sydd angen i chi ei wneud?
Gallwch gwblhau'r arolwg ar-lein drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn y llythyr a gawsoch.
Yn syml, ewch i'r wefan hon a rhowch un o'r cyfeirnodau a chyfrineiriau cysylltiedig a ddarparwyd a chwblhewch yr arolwg erbyn y dyddiad ar flaen y llythyr hwn. Dim ond pobl sy'n byw yn eich aelwyd sy'n cael cymryd rhan.
Beth fyddwch chi'n gofyn i mi?
Mae’r arolwg yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau am eich bywyd, gan gynnwys cwestiynau am:
- Eich gwybodaeth ddemograffig
- Eich teimladau tuag at eich cymdogaeth a'ch ardal leol
- Eich lles a boddhad mewn bywyd
Oes rhaid i mi ateb bob cwestiwn?
Mae ateb y cwestiynau yn wirfoddol. Mae'r arolwg yn cynnwys rhai cwestiynau amdanoch chi fel eich oedran, ethnigrwydd, hanes cyflogaeth. Rydym yn gofyn y mathau hyn o gwestiynau fel y gallwn sicrhau bod barn pawb yn cael ei chasglu. Fodd bynnag, os nad ydych yn dymuno ateb y mathau hyn o gwestiynau yna gallwch ddewis 'gwell gennyf beidio ag ateb' i symud i'r cwestiwn nesaf.
A allaf helpu rhywun i lenwi'r arolwg?
Gallwch, mae hynny'n iawn. Os oes angen eich help ar ffrind neu berthynas i lenwi’r arolwg, gallwch gynnig help. Ond dylai'r atebion fod yn ymwneud â'u profiad nhw yn unig.
Sut alla i hawlio fy nhaleb?
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r arolwg byddwch yn cael eich cyfeirio at ein gwefan talebau, lle gallwch ddewis o blith ystod o wahanol dalebau siopa.
Os byddwch yn cwblhau fersiwn bapur o'r arolwg, byddwn yn afon taleb atoch drwy’r post unwaith y byddwn wedi derbyn yr arolwg cyflawn.
Cyfrinachedd a diogelu data
Ydy'r arolwg hwn yn gyfrinachol?
Ydy, dim ond at ddibenion ymchwil ac ystadegol y bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw ar wahân i'ch atebion ac ni fyddant yn cael eu trosglwyddo i unrhyw sefydliad y tu allan i Verian neu sefydliadau cyflenwi sy'n cynorthwyo i gynnal yr arolwg.
Bydd data o’r arolwg yn cael eu rhannu gyda’r MHCLG at ddibenion cynhyrchu a chyhoeddi ystadegau. Ni fydd y data a rennir â MHCLG yn cynnwys eich enw na'ch manylion cyswllt, ac ni fydd modd adnabod unrhyw unigolyn neu aelwyd o'r canlyniadau.
Mae’r arolwg hwn yn rhan o werthusiad ehangach o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’r gwerthusiad hwn yn cael ei gynnal gan gonsortiwm o bartneriaid gwerthuso ar ran MHCLG, wedi’i arwain gan Frontier Economics (ymgynghoriaeth economaidd annibynnol) ac Ipsos (sefydliad ymchwil annibynnol). Bydd MHCLG yn rhannu eich atebion arolwg ynghyd â manylion am yr ardal rydych chi’n byw ynddi gyda’r sefydliadau hyn. Ni fydd y data hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n gallu eich adnabod oni bai ein bod ni wedi gofyn am, a’ch bod chi wedi cytuno i, drefniant amgen.
Bydd eich atebion yn cael eu cyfuno ag eraill sy'n cymryd rhan yn yr arolwg. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw ‘bost sothach’ ar ôl cymryd rhan. Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn cadw’ch data’n ddiogel, ewch i www.yourcommunitysurvey.co.uk
A fydd fy nata yn cael eu cyhoeddi?
Bydd MHCLG yn cyhoeddi fersiwn gyfun (wedi’i grwpio gyda’i gilydd) a dienw o’r set ddata hon, fel Ystadegau Swyddogol sy’n deillio o’r arolwg hwn ar gov.uk. Ni fydd yn bosib eich adnabod o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir.
Bydd set ddata sy’n cynnwys atebion o’r arolwg (heb gynnwys eich enw na’ch gwybodaeth gyswllt) ar gael i ymchwilwyr UK Data Service. Bydd yn cael ei rhannu er mwyn hwyluso ymchwil yn y maes hwn. Mae UK Data Service yn wasanaeth data cenedlaethol sy’n darparu mynediad ymchwil i ystod o gasgliadau data cymdeithasol ac economaidd. I ddeall rhagor am sut mae UK Data Service yn trin eich gwybodaeth, cyfeiriwch at eu Hysbysiad Preifatrwydd yma.
Ni fydd y setiau data a ddyddodir yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn na chyfeiriad e-bost.
Diogelu Data
Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ar gyfer perfformiad awdurdod swyddogol a budd y cyhoedd a dim ond cyhyd ag y caiff ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau y caiff ei chadw. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am y ffordd rydym yn trin eich data personol yma. Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau penodol, cysylltwch â MHCLG yn dataprotection@communities.gov.uk.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael unrhyw fanylion pellach am yr arolwg neu os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth gwblhau'r arolwg, gallwch anfon e-bost atom yn yourcommunitysurvey@veriangroup.com neu ffonio ein tîm llinell gymorth pwrpasol ar 0800 008 3250. Sicrhewch fod eich cyfeirnod wrth law.