Datganiad Hygyrchedd

Mae cwmpas y datganiad hwn yn cynnwys gwefan arolwg Your Community, Your Say www.yourcommunitysurvey.co.uk a rhyngwyneb yr arolwg, sef yr offeryn a ddefnyddir i gwblhau’r arolwg

Ar y dudalen hon:


Ein hymrwymiad at hygyrchedd

Rhedir y wefan hon a’r rhyngwyneb arolwg hwn gan Verian. Rydym eisiau cynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon a chwblhau’r arolwg.

Rydym wedi cynllunio’n gwefan a rhyngwyneb arolwg gyda hygyrchedd mewn golwg, gan ystyried arfer gorau canllawiau hygyrchedd gwe i sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn gallu cymryd rhan.

Rydym wedi cynnal archwiliad hygyrchedd o’n rhyngwyneb arolwg safonol trwy’r Bureau of Internet Accessibility. Roedd hyn yn cynnwys profi pwyntiau gwirio WCAG 2.1 A/AA yn bwrpasol yn ogystal â phrofion achos defnydd i wirio sut mae hygyrchedd yn effeithio ar ddefnyddioldeb.

yn ôl i’r brig


Nodweddion hygyrch y wefan hon a’r rhyngwyneb arolwg hwn

Mae nodweddion y wefan hon a’r rhyngwyneb arolwg hwn sy’n helpu hygyrchedd yn cynnwys y gallu i:

  • Newid lefelau cyferbynnedd, lliwiau a ffontiau ar rai porwyr.
  • Chwyddo hyd at 300% gyda thestun yn aros yn weladwy ar y sgrîn, a’r rhan fwyaf o ddelweddau yn cael eu graddio heb golli eglurder.
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan a’r arolwg gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan a'r arolwg gan ddefnyddio darllenydd sgrîn.

Cafodd y cynnwys ar y wefan hon, a drwy’r rhyngwyneb arolwg, ei ysgrifennu a’i strwythuro gan ddefnyddio iaith hygyrch lle bo hynny’n bosibl.

yn ôl i’r brig


Sut i ddefnyddio nodweddion hygyrchedd

Gellir dod o hyd i fanylion am sut y gellir addasu'r wefan a’r rhyngwyneb arolwg i ddiwallu anghenion hygyrchedd isod.

Newid y lliwiau a’r arddull a ddefnyddir

Mae’n bosib y bydd hyn yn ddefnyddiol i chi os oes gennych olwg isel a bod angen lliwiau cyferbynnedd uchel arnoch.

  • Yn Microsoft Edge, cliciwch y ddewislen 'Settings' a dewiswch y botwm 'Accessibility'. Gallwch ddewis i anwybyddu fformatio tudalen. Ewch yn ôl i'r tab ‘General’ i wneud eich dewisiadau gan ddefnyddio’r botwm ‘Appearance'.
  • Yn Firefox, cliciwch y botwm ‘Menu’ a dewiswch ‘Settings’. O dan yr adran ‘Iaith ac Ymddangosiad’ dewiswch y botwm ‘Manage Colours’. Bydd hyn yn agor ffenest lle y gallwch chi wneud eich dewisiadau. Dewiswch ‘Always’ yn y gwymplen ‘Override the colours specified by the page with my selections above’. Cliciwch 'OK' i ddychwelyd i Firefox.
  • Yn Google Chrome a Safari, does dim dewis ar hyn o bryd i newid lliwiau testun a chefndir. I ddod o hyd i estyniadau hygyrchedd ar gyfer Chrome, ewch i’r Chrome Web Store a chwiliwch am 'accessibility'.

Fel arall, gallwch chi newid y gosodiadau yn eich system weithredu fel bod y lliwiau a ddewiswyd gennych yn ymddangos bob tro yr ydych chi’n defnyddio eich cyfrifiadur. Mae cyfarwyddiadau’n wahanol yn dibynnu ar eich system weithredu a gellir dod o hyd iddynt ar y wefan My Computer My Way.

Cynyddu maint y ffont

Gallwch chwyddo i gynyddu maint y ffont drwy addasu gosodiadau eich porwr. Mae’n bosib y bydd hyn yn ddefnyddiol os oes gennych chi olwg isel.

  • Gan ddefnyddio eich bysellfwrdd, daliwch y botwm Ctrl i lawr a phwyswch y fysell = i chwyddo, pwyswch y fysell – (minws) i bellhau, neu dychwelwch i’r maint safonol drwy bwyso’r fysell 0 (sero).
  • Os oes gennych lygoden olwyn, gallwch chwyddo drwy bwyso Ctrl a symud yr olwyn ar eich llygoden ar yr un pryd.
  • Mae’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol, fel llechi a ffonau clyfar, yn defnyddio ‘ystumiau’ sgrin gyffwrdd fel ‘gwasgu a chwyddo’ i newid maint y dudalen. Mae’n bosib y bydd tapio’r dangosydd ddwywaith hefyd yn cael yr un effaith.

Sut i lywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

Mae’n bosib llywio gwefan yr arolwg gan ddefnyddio eich bysellfwrdd.

  • Defnyddiwch eich bysellau saeth i sgrolio i fyny neu i lawr y dudalen.
  • Gallwch ddefnyddio eich bysell Tab i symud rhwng dolenni, a phwyso Return neu Enter i ddewis un.

Mae hefyd yn bosib llywio rhyngwyneb yr arolwg trwy ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig, mewn ffordd ychydig yn wahanol.

  • Defnyddiwch y saethau i lywio trwy opsiynau ymateb ar gwestiynau lle gallwch ddewis un ateb yn unig.
  • Defnyddiwch y fysell tab i lywio trwy’r opsiynau ymateb ar gyfer pob cwestiwn arall.
  • Defnyddiwch y fysell tab i symud o opsiynau ymateb i’r botymau ymlaen ac yn ôl sy’n cael eu defnyddio i symud rhwng cwestiynau.
  • Gallwch ddefnyddio’r bysellau Enter neu Return i ddewis opsiwn ymateb, neu ddewis y botymau ymlaen ac yn ôl.

Cydnawsedd darllenydd sgrîn

Mae’n bosib llywio gwefan a rhyngwyneb yr arolwg gan ddefnyddio darllenydd sgrîn. Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur Windows neu Apple, mae’n bosib bod eich system weithredu hefyd yn cynnwys offer darllenydd sgrîn. Mae meddalwedd darllenydd sgrîn eraill ar gael, ac mae rhai ohonynt am ddim i’w defnyddio. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar wefan RNIB Supporting people with sight loss.

yn ôl i’r brig


Pa mor hygyrch yw’r wefan hon a’r rhyngwyneb arolwg hwn?

Mae’r wefan hon a’r rhyngwyneb arolwg hwn yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA.

yn ôl i’r brig


Adrodd am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon a’r rhyngwyneb arolwg hwn. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion isod.

E-bost:

Rhif ffôn: 0800 008 3250

I’n helpu i ddeall eich anhawster yn gyflym, cyfeiriwch at ‘hygyrchedd’ yn eich cais. Croesawir pob darn o adborth adeiladol am hygyrchedd neu ddefnyddioldeb a bydd yn cael ei ystyried yn ofalus.

Os oes angen copi papur o'r holiadur arnoch, neu unrhyw fformat arall, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r un manylion uchod.

yn ôl i’r brig


Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 28/04/2023. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 11/07/2023.

yn ôl i’r brig